Sut ydw i’n gweld Fy Nghofnod Meddygol

I weld eich cofnodion meddygol codedig manwl:

1. Yn gyntaf, bydd angen i chi gysylltu â’ch meddygfa i wneud cais am fynediad at eich cofnod meddygol.

Sylwer – Bydd angen prosesu eich cais, felly ni fydd eich cofnod ar gael ar unwaith

2. Mewngofnodwch i wefan Fy Iechyd Ar-lein yn y ffordd arferol.

3. Dewiswch Fy Nghofnod Meddygol.

4. Y tro cyntaf y byddwch yn clicio ar Fy Nghofnod Meddygol, bydd gofyn i chi sefydlu manylion diogelwch, gan gynnwys rhif PIN pedwar digid, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin i gwblhau hyn. Ar ôl sefydlu eich manylion diogelwch:

5. Bydd sgrin i roi’ch PIN Diogelwch yn ymddangos, rhowch y PIN pedwar digid rydych chi wedi’i sefydlu, a chliciwch Cyflwyno.

6. Bydd Fy Nghofnod Meddygol  yn ymddangos, cliciwch ar y categorïau sydd ar gael i weld eich cofnodion.

7. Bydd y wybodaeth sy’n ymddangos yma yn dibynnu ar beth benderfynodd eich meddygfa.